Blodeua'r cyfiawn tua'r nen

(Y cyfiawn yn blodeuo
Salm 92. Ail Ran. [ad. 12-15.])
Blodeua'r cyfiawn
    tua'r nen,
  Fel y balmwydden union;
Cynnydda'n fawr,
    a brigog fydd
  Fel cedrwydd yn Libanon.

Y rhai a blannwyd yn nhŷ Dduw,
  Yn goedwydd byw y tyfant;
Ac y'nghynteddau ein Duw ni,
  Y rhei'ny a flodeuant.

Hwy ffrwythant oll mewn henaint llawn,
  Y'mhob rhyw ddawn a rhinwedd;
Tirfion ac iraidd iawn i gyd
  A fyddant hyd eu diwedd.

Fel hyn addysgir dynol ryw
  Mai uniawn yw yr Arglwydd;
Mai gwir i gyd yw geiriau'r Iôn
  I'r cyfion yn dragywydd.
Mr W Evans, Bala.
Casgliad o Psalmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831

[Mesur: MS 8787]

gwelir:
  Rhan I - Gwaith hyfryd iawn a melus yw
  Moliannu'r Arglwydd da iawn yw
  Y rhai a blannwyd yn nhŷ Dduw

(The righteous flourishing
Psalm 92. Part 2 [vv. 12-15])
The righteous shall flourish
    towards heaven,
  Like the straight palm tree;
It shall increase greatly,
    and shall be spreading
  Like cedars in Lebanon.

Those who were planted in the house of God,
  As living trees they shall grow;
And in the courts of our God,
  Those shall flourish.

They shall all bear fruit in full old age,
  In every kind of talent and virtue;
Fresh and very green altogether
  They shall be until their end.

Thus is human kind to be taught
  That upright is the Lord;
That altogether true are the Master's words
  To the righteous in eternity.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~